Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Tachwedd 2019
Amser:
09.32 -
11.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5722
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Suzy Davies AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC |
Tystion: |
Dr Nigel Newton, Prifysgol Caerdydd |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC, ond nid oedd neb yn dirprwyo ar ei ran.
6.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio gan Dr Nigel Newton:
2.2 Cytunodd Dr
Newton i ddarparu adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig, sef,
Dibenion Cyffredin - Goblygiadau diwygio’r cwricwlwm yng
Nghymru i addysg bellach, addysg uwch, sgiliau a busnes i’r
Pwyllgor.
3.1 Nodwyd y papurau.
3.2 Mewn perthynas â’r ohebiaeth a ddaeth i law ar addysg ddewisol gartref, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i:
· ailadrodd ei gred bod angen gweithredu i sicrhau bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref yn cael eu gweld a bod sgwrs yn cael ei chynnal â nhw am yr addysg â gânt, ac i sicrhau eu bod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel;
· gofyn am eglurhad ar y pwyntiau cyfreithiol a godwyd yn yr ohebiaeth ynghylch ar ba sail y gellid llunio canllawiau arfaethedig;
· gofyn am fanylion ar ba weithdrefn a / neu broses ymgynghori (os o gwbl) y Cynulliad y bydd y fersiynau terfynol o’r canlynol yn ddarostyngedig iddynt, a’r amserlenni cysylltiedig ar gyfer pob un:
- addysg gartref: canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol a llawlyfr ar gyfer addysgwyr cartref;
-
rheoliadau a fyddai’n ei gwneud
yn ofynnol: i awdurdodau lleol gynnal a phoblogi cronfa ddata o
blant o oedran ysgol gorfodol yn eu hardal, i’w helpu i
adnabod plant nad ydynt yn hysbys iddynt; byrddau iechyd lleol i
ddatgelu gwybodaeth anfeddygol i awdurdodau lleol i helpu’r
awdurdod i adnabod plant yn eu hardal; ac ysgolion annibynnol i
ddatgelu gwybodaeth i awdurdodau lleol am ddysgwyr yn yr ysgol
annibynnol.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
5.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei ddosbarthu drwy e-bost ar gyfer cytuno arno.